Rali Ewropeaidd 2005 – Yr Alban

Cynhaliwyd Rali Ewropeaidd 2005 gan Glybiau Ffermwyr Ifanc yr Alban yn Ysgol Strathallan, Forgandenny, Perth & Kinross. Daeth oddeutu 100 o bobl ifanc o 20 o sefydliadau Ffermwyr Ifanc neu 4H at eu gilydd i drafod y thema “Un Ewrop, nifer i ddiwylliant.”

Yn ystod yr wythnos, bu amryw weithgareddau ar waith tim, cyfathrebu a integreiddio.  Yn ogystal a hyn, bu cyfle i flasu amryw fwydydd Ewropeaidd yn y bwffe rhyngwladol a mwynhau noson o adloniant rhyngwladol.

Dewiswyd tîm Cymru ar ddiwrnod cyfweliadau tramor Ffermwyr Ifanc Cymru yn Llanelwedd, ac o’r fan hynny, bu paratoi trylwyr ac eang ar gyfer y daith. Dyma aelodau’r tîm – 

Meinir Thomas, Sir Gâr – Arweinydd
Helen Davies, Ceredigion
Rhodri Jones, Meirionydd
Llinos Jones, Sir Gâr
Betsan Ifans, Sir Benfro

Rhaid oedd chwilio a chasglu nawdd ar gyfer y daith, a hoffwn ni a gweddill y tîm ddiolch i Gynghorau Cymuned Llangeler a Chenarth am eu rhoddion hael, ac i EH Factors, Penrhiwllan am noddi crysau t ar gyfer yr daith gyfan. Diolch hefyd i Argraffu Delyn, Dai Lewis, Yr Afon Duad, Wafflau Tregroes, Caws Teifi a Cegin Fach y Wlad am eu cefnogaeth. 

Mae teithio tramor gyda'r Ffermwyr Ifanc yn brofiad gwych, ac yn gyfle rhy dda i'w golli.  Gellir teithio i amryw o wledydd, o'r Alban i Awstralia.  Ac wrth gwrs, cael y cyfle a'r fraint i gynrychioli Cymru ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.

Llinos


Drun a Rhodri!
Yr unig fachgen
Yr unig Gogleddwr!
Yr unig un yn gwisgo Kilt!

Y Bwffe Rhyngwladol
Cyfle i arddangos ychydig o fwydydd gwych Cymru ac i brofi bwydydd o bob cwr o’r Undeb Ewropeaidd

Senedd yr Alban
Taith ymweld â Senedd newydd Yr Alban yng Nghaeredin ac i gwrdd ac un o’r Aelodau Seneddol Alex Johnson. Adeilad gwerth £470 miliwn a chyfle i wleidyddiaeth Yr Alban ddatblygu hunaniaeth a chyfle at y dyfodol.