Rali Ewropeaidd i Latfia
Yn ystod mis Hydref 2006, braf oess clywed fy mod i yn rhan o’r tim oedd yn mynd i gynrychioli Cymru, dewiswyd tim Cymru ar ddiwrnod cyfweliadau tramor Ffermwyr Ifanc Cymru yn Llanelwedd, ac o’r fan hynny, bu paratoi trylwyr ac eang ar gyfer y daith. Dyma’r aelodau’r tim –
Martyn Williams, Sir Benfro – Arweinydd
Rhian Howells, Sir Gâr
Alison Jones, Ceredigion
Ian O’Connor, Sir Gâr
Rebecca Huxley, Clwyd
Cynhaliwyd Rali Ewropeaidd 2006 gan Glybiau Ffermwyr Ifanc yn Latfia. Daeth oddeutu 100 o bobl ifanc o 20 sefydliadau Ffermwyr Ifanc neu 4H at eu gilydd i drafod y thema ‘pearls in contrast’
Yn ystod yr wythnos, bu amryw weithgareddau ar waith tim. Yn ogystal a hyn, bu cyfle i flasu amryw fwydydd Ewropeaidd yn y bwffe rhyngwladol a mwynhau noson adloniant rhyngwladol.
Rhaid oedd chwilio a chasglu nawdd ar gyfer y daith, a hoffwn ni a gweddill y tim ddiolch i Canolfan Bwyd Cymru, Gwyn Lewis Carpets Ltd, Mansel Davies a’iFeibion Ltd, Tafarn yr Afon Duad, Dewi Valley Service, Premier Dairy Service, Scorpion, Llandeilo, Danswyr Talog, Celtic Country Wines, Caws Natybwla, Caws Cenarth, Waffles Tregaron, Hybu Cig Cymru a Golwg y Môr.
Dymunwn bob llwyddiant i Mr Delme Harries am gael ei ethol fel cadeirydd teithio ieuenctid Ewrop.
Mae teithio tramor gyda’r Ffermwyr Ifanc yn brofiad gwych, ac yn gyfle rhy dda i’w golli. Gellir teithio i amryw o wledydd, o’r Alban I Awstralia. Ac wrth gwrs, cael y cyfle a’r fraint i gynrychioli Cymru ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.
Rhian