Taith Ulster - Ebrill 2005
Yn ôl ym mis Tachwedd 2005 cefais fy newis i gynrychioli C.Ff.I Cymru ar daith gyfnewid ag Ulster, Gogledd Iwerddon. Y pryd hynny roedd mis Ebrill i weld yn bell i ffwrdd ac nid oeddwn yn meddwl gormod am y daith. Dim ond wrth i mi eistedd ar y trên yng Nghaerfyrddin y sylweddolais beth oedd o’m blaen - mynd i wlad ac ardal anadnabyddus at deulu nad oeddwn yn ei hadnabod. Ond buan y diflannodd y pryderon pan gyfarfûm a’m teulu surrogate ym maes awyr Belffast. Roeddwn aros gyda Danielle Graham a’i theulu yn Enniskillen, Fermanagh. Ardal amaethyddol gyda’r rhan fwyaf o’r tir yn cael eu defnyddio ar gyfer ffermio llaeth.
Cefais y cyfle i deithio i bob rhan o Ulster gan ymweld â phrif atyniadau’r rhanbarth megis yr ogofau Marble Arch, yr enwog Giant’s Causeway a’r Mynyddoedd Mourne yn y De-ddwyrain. Yn ogystal â hyn bûm yn ymweld â fferm laeth a oedd yn cynhyrchu hufen ia o laeth Jersey’s. Wrth gwrs roedd yn rhaid trio’r cynnyrch gan gynnwys y blasau mwy traddodiadol a’r rhai cyfoes megis ‘Pear a Stilton’!!!
Mae Danielle yn aelod o fudiad Young Farmer’s Club Ulster a thra mod i yno roedd ei Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn cael ei gynnal yn Enniskillen. Treuliwyd y penwythnos yng Ngwesty’r Killyhevilin, yn dod i adnabod nifer o bobl newydd a chreu cysylltiadau gwerthfawr. Yno fe wnes i gyfarfod a Lowri Jones o Geredigion a oedd wedi teithio gyda mi o Gymru a hefyd delegates o bob rhan o Brydain. Roedd y penwythnos yma yn gyfle i mi ddod i wybod mwy am eu mudiad hwy a sut roedd yn cael ei redeg a’i reoli.
Ar y nos Wener gwisgodd pawb fel doctoriaid a nyrsys ar gyfer noson o ‘dating by numbers’ - roedd hi’n amlwg iawn fod y mudiad yn Ulster yr un mor boblogaidd fel ‘dating agency’ a yw yng Nghymru! Ar fore Sadwrn bûm yn cymryd rhan mewn gweithdy gan WoW, sef Women of the World a oedd yn dangos i ni draddodiadau, gwisgoedd a dawnsfeydd o wledydd eraill. Nod y bore oedd dangos sut roedd diwylliant pob gwlad wedi clymu i’w gilydd. Roedd y cyfarfod blynyddol yn gorffen ar y nos Sadwrn gyda chinio a dawns fawreddog.
Bûm yn lwcus iawn i fod yn rhan o ddiwrnod cystadlu Barnu Stoc gyda’r mudiad. Roedd hi’n braf gweld sut oedden nhw’n cynnal cystadlaethau a hefyd cyfarfod a rhai o gyd-aelodau Danielle. Braf yw nodi fy mod wedi gyrru tractor am y tro cyntaf yn eu cystadleuaeth trin tractor, ac wedi dod yn gyntaf yn rownd y merched!!
Roedd y daith yn anrhydedd mawr i mi i gynrychioli’r mudiad a hefyd i gynrychioli Cymru. Roedd yn brofiad gwerthfawr yn llawn hwyl a sbri. Byddwn yn annog pob un ohonoch i fentro ar daith i wlad dramor - dim i fynd ar wyliau ond i fynd ar gyfnewid, i ddysgu am ddiwylliannau a thraddodiadau gwledydd eraill, ond yn bwysicach i wneud ffrindiau hir oes.
Lowri